Traethau Bae Trearddur

Trearddur Bay

Hwn yw'r prif draeth ac yr un mwyaf poblogaidd o draethau Bae Trearddur. Mae'n draeth tywodlyd hyfryd sydd wedi dal gwobr y Faner Las ers blynyddoedd lawer. Mae llithrfeydd ar ben gogleddol y traeth, un ar gyfer lansio cyhoeddus a'r llall a ddefnyddir gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI). Caniateir cŵn ar y llecyn yma o’r traeth drwy gydol y flwyddyn, ond mae gwaharddiad cŵn ar y rhan mawr tywodlyd rhwng mis Mai a mis Medi. Mae gwardeiniaid traeth i hyrwyddo diogelwch a mwynhad i bawb sy’n defnyddio’r traeth yn ystod misoedd yr haf, mae gennych hefyd y fantais o gael Gorsaf Bad Achub Bae Trearddur wedi ei lleoli yma. Mae toiledau cyhoeddus (tâl 20c) ar y prif faes parcio ar Lôn St Ffraid, faniau hufen iâ a sawl lle bwyta gerllaw. Mae traeth Bae Trearddur yn boblogaidd gydag amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr gan gynnwys pysgota môr, deifio, canŵio a sgïo dŵr. Mae Clwb Hwylio Bae Trearddur yn cynnal eu regata hwylio flynyddol yma ym mis Awst.

Porth Dafarch

Wedi ei leoli ar ffordd yr arfordir rhwng Bae Trearddur a Chaergybi mae Porth Dafarch yn gildraeth tywodlyd prydferth wedi ei amgylchynu gan bentir creigiog yn ddelfrydol i deuluoedd sydd yn dymuno diwrnod distaw ar y traeth. Ceir cyfleusterau gwych i'r anabl a thoiledau cyhoeddus ac fel rheol bydd faniau hufen iâ ac ati yno yn ystod tymor yr haf.

Porth Diane & Porth Castell

Dau gildraeth tywodlyd bychan tu ôl i forglawdd isel i'r dde o Fae Trearddur ar Ffordd Ravenspoint yw'r rhain. Porth Diana yw’r mwyaf o’r ddau ac yma mae’r clwb hwylio yn angori a lansio eu cychod hwylio. Porth Castell yw’r mwyaf poblogaidd â nofwyr.

Porth y Post & Porth Y Pwll

Dau gildraeth cysgodol o dywod a graean tu ôl i forglawdd isel ar Lon Isallt yw'r rhain. Mae’r ddau o ddeutu 100 llath gyda chreigiau naill ochr a mannau parcio cyfyngedig ar hyd y ffordd. Mae Porth y Post yn arbennig o ddeniadol ar lanw isel pan mae mynediad i’r llecynnau tywodlyd y tu hwnt i'r creigiau . Mae'n hawdd ei ac adnabod oddi wrth y graig fawr yng nghanol y traeth. Mae'r môr yn aml yn hollol glir a hyfryd ac mae digonedd o byllau rhwng y creigiau i blant i bysgota ynddynt.

Oriel:

 

Trearddur Bay Beach
Porth Dafarch Beach
034 porth diana
035 porth diana
009 porth dafach slipway
008 porth dafach water sports drop off point
  • Trearddur Bay Beach
  • Porth Dafarch Beach
  • 034 porth diana
  • 035 porth diana
  • 009 porth dafach slipway
  • 008 porth dafach water sports drop off point