Mae Cyngor Cymdeithas Trearddur yn cael ei wasanaethu gan 12 o Gynghorwyr Cymuned ac rydym yn cynrychioli’r ardal sydd ar ymyl orllewinol Ynys Gybi o Ynys Lawd i gyrion Pontrhydybont.
Rydym yn cael ei’n hethol gan breswylwyr lleol a bydd yr apwyntiad yn parhau am gyfnod o bedair blynedd. Cynhelir yr Etholiadau hyn ym mis Mai ar yr un pryd ag etholiadau lleol /cyffredinol eraill. Bydd unrhyw swydd wag sy'n codi rhwng etholiadau ( er enghraifft, drwy ymddiswyddiad cynghorydd ) yn cael ei hysbysebu a'i llenwi un ai drwy etholiad neu gyfethol.

Mae Cynghorau Cymuned yn darparu’r haen statudol o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl . Rydym yn gweithredu er budd y gymuned gyfan drwy wneud penderfyniadau ac argymhellion i wella ansawdd bywyd a'r amgylchedd.

Mae ymgynghori a gwrando ar y trigolion i ddeall eu hanghenion , eu dymuniadau a'u pryderon yn agwedd hanfodol o’n gwaith.
Mae gan Gyngor Cymuned Trearddur ystod eang o ddyletswyddau a phwerau Yr ydym yn ymddiriedolwyr y neuadd bentref er ei bod hyn yn cael ei rhedeg yn annibynnol gan bwyllgor rheoli , mae gennym ddau aelod etholedig ar y pwyllgor hwn. ‘Rydym yn gyfrifol am ddarparu cynnal y cae chwarae, a chynnal a chadw llochesi fysiau a llwybrau cyhoeddus. Mae gennym hefyd yr hawl i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio, materion hawliau tramwy, mesurau arafu traffig , is-ddeddfau lleol ac ati.

Mae'r Cyngor hefyd yn cyflogi Clerc sy'n gweithredu fel y Swyddog Ariannol Cyfrifol a gwneud y gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â rhedeg y Cyngor Cymuned o ddydd i ddydd.

Gwasanaethau a ddarperir gennym:

  • Rydym yn cynrychioli trigolion Cymdeithas Trearddur, rydym yn cyfleu eu pryderon i'r Cyngor Cymdeithas ac, drwyddo, i'r Cyngor Sir a Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • Rydym yn adrodd yn ôl i'r preswylwyr ar faterion sy'n effeithio ar y gymuned
  • Rydym yn negodi gyda, a dylanwadu ar gyrff sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar y gymuned
  • Rydym yn ymgynghori a rhoi barn ar Geisiadau Cynllunio
  • Rydym yn ymgynghori a rhoi barn ar faterion cynnal a chadw priffyrdd, materion arafu traffig, problemau parcio, enwi strydoedd ac ati
  • Rydym yn delio â materion Hawliau Tramwy - cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau
  • Rydym yn cyfrannu at y gost o redeg Mynwent Maeshyfryd
  • Rydym yn cynnal cae chwarae Lon Isallt
  • Rydym yn cynnal y llochesi fws
  • Rydym yn gwasanaethu ar Bwyllgorau a Byrddau eraill ar ran y Gymuned
  • Rydym yn ymddiriedolwyr Neuadd y Pentref
  • Gallwn wario swm cyfyngedig o arian ar unrhyw beth sy'n o fudd i'r gymuned
  • Rydym yn rhoi rhoddion i elusennau lleol.

Lawrwytho:

Rheoladau Ariannol Mawrth 2017

Cyfrifon 2015-16

Cyfrifon 2017-18