Beth Sydd Ymlaen yn Neuadd y Pentref

Bydd y dudalen yma yn darparu diweddariadau rheolaidd o ran newidiadau i wasanaethau'r Cyngor Sir, yn ogystal â gwybodaeth bwysig gan Lywodraethau'r DU a Chymru ac arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Rhaglen Hydref 2022 (yn Saesneg yn unig)

Rhif cyswllt - 01407 459800 neu 07807100747 

Mwy o wybodaeth

Ar ôl tua thair blynedd o ystyriaeth fe adeiladwyd y Neuadd Bentref yn 1979. ‘Roedd y Cyngor Cymdeithas ar y pryd, yn cael trafferth dod o hyd i dir addas i adeiladu arno, pan yn garedig iawn rhoddwyd y tir i'r gymuned gan Mr Owen Jones, Tyn Towyn. Bu cost o £50,000 i’w adeiladu. Casglwyd £6,500 gan y gymuned drwy weithgareddau codi arian a chafwyd grant i ariannu’r gweddill. Agorwyd y Neuadd Bentref y flwyddyn ganlynol, yn 1980 gan yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos.

Ychwanegwyd estyniad yn 1990, yn hwn mae’r ystafell bwyllgor a llecyn storio wedi eu lleoli. Rhwng 2000 a 2001 fe ddefnyddiwyd rhodd gan Sefydliad y Merched i ymestyn ac adnewyddu’r gegin ac ychwanegu toiled i bobl anabl. Yn fwy diweddar, yn 2015 gwariwyd £12,000 ar adnewyddu'r lloriau, llenni ac addurno cyffredinol.

Mae'r Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Bentref yn cynnwys dau Gynghorydd Cymdeithas, un Cynghorydd Sir a defnyddwyr rheolaidd y neuadd. Mae gan un aelod o bob clwb sydd yn ei defnyddio hawl i ddod ar y pwyllgor i gynrychioli’r defnyddwyr, ac fe etholir dau arall o drigolion y pentref .

Mae defnyddwyr rheolaidd y neuadd yn cynnwys: Sefydliad y Merched, Geidiaid, grwpiau dawnsio, bowlwyr dan do ac artistiaid. Gellir hefyd ei defnyddio ar gyfer partïon a man cyfarfod i grwpiau, fel y Cyngor Cymdeithas, sydd yn ymddiriedolwr y neuadd.

Mae incwm ar gyfer y costau rhedeg a chynnal a chadw’r neuadd yn cael ei godi trwy archebion a ffair flynyddol a gynhelir ar y dydd Sadwrn cyntaf o Awst.

Y Neuadd Bentref yw’r Orsaf Bleidleisio leol, fe’i defnyddir yn rheolaidd gan y gymuned leol ac ystyrir ei bod yn ased gwerthfawr i bentref Bae Trearddur a’r cylch. 

Oriel:

Village Hall front
Village Hall grounds
Village Hall plaque
Village Hall rear
  • Village Hall front
  • Village Hall grounds
  • Village Hall plaque
  • Village Hall rear