Toiledau
Bae Trearddur
Mae Toiledau Cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu lleoli ar y prif faes parcio ar Lôn St. Ffraid.
Mae'r cyfleusterau fel rheol yn AGORED o'r Pasg tan ddiwedd mis Hydref pob blwyddyn.
Mae cost o 20c i’w defnyddio.
Mae cyfleusterau ar wahân i'r anabl gyda mynediad iddo drwy gerdyn anabledd.
Comisiynwyd y gwaith celf sydd yn addurno’r gwaith brics sydd yn cau’r ffenestri gan Gymdeithas Preswylwyr a Thenantiaid Bae Trearddur. Mae’r Gymdeithas yma yn tueddu’r ardd gyfagos hefyd.
Porthdafarch
Mae Toiledau Cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn ar agor o Basg hyd at ddiwedd mis Medi.
Canolfan Ymwelwyr (RSPB) - Clogwyni Ynys Lawd
Cyfleusterau sydd ar gael i’r cyhoedd o dan y Cynllun Toiledau Cymunedol yw'r rhain gyda thoiled i ddynion, merched a’r anabl. Mae cyfleusterau Newid Babanod yno hefyd. Mae'r rhain yn AGORED o 10am - 5pm o Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Parcio
Lon St. Ffraid (LL65 2YR)
Mae hwn yn faes mawr wrth ymyl y prif draeth ym Mae Trearddur.
Uchder mwyaf 6’ 6’’
Mae toiledau cyhoeddus yma.
Fron Towyn - (LL65 2UL)
Mae hwn yn faes parcio arhosiad hir arall wrth adeilad yr RNLI ar ben gogleddol y prif draeth ym Mae Trearddur.
Mae yno 56 o lefydd wedi eu marcio + 3 bae i'r anabl
Uchder mwyaf 6’ 6’’
Lôn Isallt (LL65 2UN)
Defnyddir yn bennaf ar gyfer parcio cerbydau a threlars cychod
Mae Caban / ystafell ddosbarth a chyfleusterau newid ar gyfer chwaraeon dŵr ar gael i’w hurio
Ynys Lawd a Chlogwyni Ynys Lawd
Mae parcio cyfyngedig gan y fynedfa i Ynys Lawd a’r Goleudy ond mae gan y RSPB eu maes parcio eu hunain wrth Glogwyni Ynys Lawd.
Mae'r maes parcio RSPB ar - cyf grid: SH211818 ac mae ganddo dri bae parcio i'r anabl wedi'u marcio a rheseli beiciau.
Ceir toiledau a safle bwyta ar y safle yma .